Emanuel Lasker

Roedd Emanuel Lasker (24 Rhagfyr 1868 - 11 Ionawr 1941) yn chwaraewr gwyddbwyll, mathemategydd, ac athronydd Almaenig. Ef oedd ail Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, am gyfnod o 27 mlynedd, o 1894 i 1921, teyrnasiad hiraf unrhyw Bencampwr. Ar ei anterth, roedd Lasker yn un o'r pencampwyr amlycaf, ac fe'i ystyrir yn un o'r chwaraewr cryfaf mewn hanes hyd heddiw.

Dywedai ei gyfoeswyr bod Lasker yn defnyddio agwedd "seicolegol" at y gêm, a'i fod weithiau'n chwarae symudiadau israddol yn fwriadol er mwyn drysu ei wrthwynebwyr. Dangosodd dadansoddiad diweddar, fodd bynnag, ei fod o flaen ei amser ac yn defnyddio dulliau mwy hyblyg na'i gyfoeswyr, a oedd yn drysu llawer ohonynt. Roedd Lasker yn astudio'r dadansoddiadau cyfoes o'r agoriadau ond yn anghytuno â llawer ohonynt. Cyhoeddodd gylchgronau gwyddbwyll a phum llyfr gwyddbwyll, ond cafodd chwaraewyr a sylwebwyr hi'n anodd dysgu gwersi o'i ddulliau.

Cyfrannodd Lasker at ddatblygiad gemau eraill. Yr oedd yn chwaraewr 'contract bridge' o'r radd flaenaf ac ysgrifennodd am bridge, Go, a'r gem ddyfeisiodd ei hun, Lasca. Cyflwynodd brobem yn ei lyfrau am gemau sy'n dal i gael ei hystyried yn nodedig mewn dadansoddiad mathemategol o gemau cardiau. Roedd Lasker yn fathemategydd ymchwil a oedd yn adnabyddus am ei gyfraniadau i algebra cymunol, a oedd yn cynnwys profi dadelfeniad sylfaenol o ddelfrydau modrwyau polynomaidd. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw a gafodd ei weithiau athronyddol, a'r ddrama a gyd-ysgrifennodd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Lasker, Emanuel, 1868-1941', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Lasker, Emanuel, 1868-1941
    Cyhoeddwyd 1933
    Llyfr